The Celtic Literature Collective

Oianau
Llyfr Du Caerfyrddin XVIII

Oian a parchellan. a parchell dedwit
Nachlat dyredcir ympen minit.
Clat in lle argel in arcoedit.
Rac erwis ritech hael ruyfadur fit.
Ami disgoganafe a gwir uit.
Hid in aber taradir rac trausev prydein
Kimry oll inyeu kyfluit.
Llyuelin y envo eissillit
Gwinet gur digorbit.

Oian a parchellan. oet reid myned
rac. kinytion mordei bei llafassed.
Rac diuod erlid arnamne a ingueled.
Ac or diaghune. ny chumune in lluted.
Ami disgoganafe. rac ton navfed.
Rac vnic bariffvin gvehin dived.
Dirchafaud llogaud tud ir llettcred.
Yn tymhir gurthtir a guystuiled.
In y del kinan iti oechin gueled.
Ny bit attcor bith ar y threfred.

Oian a parchellan nyhaut kisscaff.
Rac godurt y galar yssit arnaf.
Deg mlinet a deu ygein yd portheise poen
Y struc aorhoen yssit arnaf.
Oes imi gan iessv gaffv guaessaf
Brenhinoet newoet achoet uchaf.
Nymad rianed oplant adaw.
Ar ny creddoe ydovit indit diwethaf.
Yd welese gnendolev in perthic riev.
In cynull preitev o pop eithaw.
Ydan vyguerid rut nv neud araf.
Pen teernet goglet llaret mvyhaw.

Oian aparchellan oet reid gweti.
Rac offin pimp penaeth o nortmandi.
Ar pimhed in myned dros mor heli.
Y oreskin iwerton tirion trewi.
Ef gunahaud ryuel a difissci.
Ac arfev coch. ac och indi.
Ac winttuy in dihev adoant o heni.
Ac. awnant enrydet ar bet. Dewi.
Ami disgoganafe bid divisci.
O ymlat mab a thad gulad ae guybi.
A myned y loegruis diffuis trewi.
Ac nabo guared bith y nortmandi.

Oian a parchellan. Nauit hunauc.
Rydibit attemne chuetil dyfridauc.
Penaetheu bychein anudonauc.
Meiri mangaled am pen keinhauc.
Pan diffon. dros mor guir eneichauc.
Kad meirch. y danuit ve dev wynepauc.
Deuwlaen. ar euguaev anoleithauc.
Erti heb medi ymbid dyhetauc.
Guell bet. no buhet pop yghenauc.
Cirrn ar y guarget pedryfanhauc.
Affanvont ve corforion meibon eidauc.
Y bit bore taer. rac kaer sallauc.

Oian a parchellan. a parchell dyhet.
Run dyuueid huimleian chuetyl enryuet.
Ami discoganaue hav guithlonet.
Kywrug brodoryon brad o winet.
Ban diholer taguistil inhir o tir guinet.
Dybit seith ganllog o ynt gan wint goglet
Ac in aber dev eu kinatlet.

Oian a parchellan a parchell guin.
Rymdywod himleian chuetil am echrin
Pan bebillo lloegir in tir ethlin.
A guneuthur dyganhuy dinas degin.
O g*(---) lloegir a llyuelin
Aduit mab arwarr. (---) kychuin.
Ban sorro deinoel mab dunaud deinwin.
Ad vit frangc ar ffo fort ny ofin.
In aber dulas. gvanas guehin.
Cochuet inev kylwet. yn ev kilchin.

Oian a parchellan hoian hoiev.
Bel ychenauc duv gunai. ymchuelev.
y (---)ll yssy. wiv. bitaud mev.
Ar hun yssy (---) keisssed intev.

Oian a parchellan neud dit golev.
Andaude leis adar duffyr dyar leissev.
An hit ni bluitinet a hir diev.
Arievenwir edwi fruytheu.
Ac escib. lluch lladron differch llannev.
Amyneich a obrin beich o bechodev.

Oian a parchellan llim y vinet.
Kyuuely anwinud panelhute y oruet.
Bychan awir ryderch hael heno y ar y wlet.
A protheise neithuir o anhunet.
Eiri hid impen clun. gan cun callet.
Pibonvy imblev. blin wy rysset.
Ry dibit div maur dit guithlonet.
Kywrug glyu powis achlas guinet.
A chivod hirell oe hir orwet.
Y amvin ae elin terwin guinet.
Ac onymbit gan vy ri ran trugaret.
Guae wi ban imbv. trv vy diwet.

Oian a parchan. Ny bit kywun.
Ban kyhin llu aer o kaer wyrtin.
Y harduy dev kenev. in kynwrenhin.
O hil ris aerllut. aer llyf bitin.
Ban llather y Saesson y kimerev trin.
Guin ev. bid vy kimri. kimrvy. werin.

Oian a parchellan. a parchell. guin gvis.
Nachuste hun bore. nachlat im prisc.
Rach dyuod. Ryderch. hael. ae cvn kyfruys.
Kin caffael o honautte y coed reddaud. dychuis.

Oian a parchellan a parchell guin.
Bei gueled a weleis o treis degin.
Nychyscute hun bore. ny chlatude brin. [*]
Ban eistetho saesson iny sarffren.
A chirchu o pell castell gollwin
A tuit dillad hoev a gloev dullin.

Oian a parchellan andaude y naur
Ban dottint. ve guir guinet ev gueith maur.
Llaffnev in ertirn kirn a ganhaur.
Briuhand llurugev rac llun waewaur [**]
Ami disgoganauc. deu priodaur.
A luniont tegnevet o nef hid laur.
Kynan kadwaladir. Kymri penbaladir.
Bitaud ev kinatil aedmyccaur.
A chiureithau gulad. a chistutia gwad.
Allv alle(---)divahaur.
An bi ni inaeth guared guy(---)aeth
Neb o haelonaeth nididolaur.

Oian a parchellan. Nud glas minit.
Tenev vyllen imi nyd llonit.
Lluid yv. vybliet nim treit guendit.
Ban diffont guir. brineirch ir guarth luit.
Kimri a oruit kein bid ev dit.

Oian a parchellan. a parchell gawi.
Na chlat de redkir nac iste. wiuuy.
Na achar waes. nachar. warvy.
A chussil arotafe y wenabuy.
Nauid ieuangc serchauc syberv warruy.
Ami discoganafe guieth marchavvi.
Aduit geloraur rut in riv didmuy.
O kiwranc y kynvrein bron reinon kifrvi.
Advit bore och. acoch ofuy.
Arth o deheubarth a dirchafuy.
Rylletaud y wir ew tra thir mynvy.
Guini bid hi guendit ae harovy
Ban. vo pendewic dyued ae guledichuy.

Oian a parchellan neud blodeu drein.
Gorlas kein minit eliut neud kin.
Ami discoganaue kad coed lluiuein.
A geloraur rirtion rac ruthir owein.
Ban gunelhot meiriev datlev bichein.
Anudon abrad gulad veibonin.
A phan del kadualadir y orescin
Mon dileaur saeson o tirion prydein.

Oian a parchellan maur erissi
A uit impridein ac nim dorbi.
Ban diffon brodorion o amtiret.
Mon. y holi brithou brithuid dybi.
Dirchafaud dreic faud fau isperi
Gurt kyuan uaran o lan teiwi.
Gunahaud am dyued diguiysci.
Bit itau inaelau eilon indi.

Oian a parchellan. Mor enryuet.
Na bit un enhid y bid munvet.
Pelled son saeson seil kynriss.
Ar brithon haelon hil kymuyet.
A mi discoganaue kindiguiet.
Brithon dros saesson brithuir ae met.
ac ina indaune daun goruolet.
Guidi bod inhir inhuir. vridet.

Oian a parchellan andaude ireilon
A groar adar kir kaer reon.
Vn yssun aroun minit maon
Y edrich drichumauc drich serchogion.
Ami discoganawe kad ar y ton.
A chad machavvy. a chad avon.
A chadcorsmochno. a chad minron.
A chad kyminaud. a chad caerlleon.
A chad abergweith. a chad ieithion.
A phan vo diwed tir terwin. y. eilon.
Maban dirchavaud mad. y vrython.

Hoian a parchellan. Bydan a vit.
Mor truan y. dyuod. ac ew dybit.
Mrynion moelon. guarget revit.
Karant ny parchant eu kerenhit.
Rvit ny kywriut. vrth y gilit.
Escyp agkyueith diffeith difid.

Hoian a parchellan bichan brychni.
Andaude leis adar myr. maur ev hinni.
Kertorion allan heb ran teithi.
Kyn safont iny drvs this nys deupi.
Rymdivod gwyllan o pell ymi.
Teernet en ryuet ev kiniweti.
Avvahont dihet a divysci.
Ac y kuwenv dywiev divod iti.
Ac imlat in taer am dvylan tywi.

Hoian a parchllan. bychan breichvras.
Andav de leis adar mor maur eu dias.
Kertorion allan heb ran vrdas.
Gurthwnaud espid a brid gan gwas.
Heb cadvid. vynep heb ran vrdas.
Ban. vo. dev broder. deu itas am tir.
Megittor oc ev guir. vy. hir alanas.

Hoian a parchellan. Nym dawe kingid.
O clybod lleis adar duwir dyar ev grid.
Tenev gvallt vyn pen. vy llen nyd clid.
Dolit vy iscubaur. nyd maur vy id.
Vy craun haw ami nid imverid.
Kyn iscar aduv ditaul kyvid.
Ami discoganawe kin. gorffen bid.
Gwraget heb gvilet. gwir heb gurhid.

Hoian a parchellan a parchell rymi.
Tenev vyllen nid llonit ymi
Yr gueith arywderit mi nym dorbi.
Kynduguitei awir y lavr. allyr. enlli.
Ami discoganawe gvydi henri.
Breenhin na breenhin brithwyd dybi.
Ban vo pont. ar. taw ac arall ar tywi.
Y dav y dyved ryvel iti.



* In the margin: 
Ny chirchud differch o diffuis lin

* In the margin:
Ban diffon nortmin. yarl llidan lin
Advit imurchrin in gan vitinaur.
Agorescin pridein y uiron yswein
Ar vall o lundein adyattavr. ami