The Celtic Literature Coỻective

Gossymdeith ỻefoet wynebclaỽr
Jes. MS 111 (Llyfr Coch Hergest)
col. 1055-1056

Gossymdeith ỻefoet wynebclaỽr. yỽ hynn.
Golut byt eyt dy daỽ. ket ymgeinmyc-
ker o honaw m dychystud aghen
dychyfyaỽ. dybyd hinon gỽedy glaỽ. ny naỽt
kyhafal kyvaethlaỽ. agleỽ chwerit creu oe-
dinaỽ. pob ỻyfỽr ỻemittyor arnaỽ. pob ffer dy
atter heibyaỽ. dychymmyd dedwyd ac anaỽ.
rihyd ac ef duỽ dywaỻaỽ,
Golut byt eyt dydo. digaỽn dovyd darparo.
hydyr gwaed gỽanec ỽrth vro. pan elwir chwe-
lit ac do. di oryuic dyn ny welo. ny didaỽr ny
daỽr cỽt vo ny wneyd gwir ny ein ymro. ny-
chenir mỽyeit ar ffo. bit vleid beidyat a-
dwyỻ. chwannaỽc vyd ỻen ỻwydaỽc ỻaỽ diuo,
Golut byt eyt dybyd. atwaed chwant atuant
riyd. dychynneit ieueinc dychynnyd. nyt ech w-
enjt clot kelwyd. nyt vn aruaeth kaeth aryd. ys-
gỽac vro ny vo crevyd; atuant adaỽ ny wnehyd.
ỻỽyt ac annwyt ny gymyd. ny obỽyỻ o duỽ diffyd.
ny elwir yngywreint ny gynnyd. keinyathỽn go-
frynỽn greuyd. hyt pan ynbo gan grist grennyd,
anghyfaelyỽr anghyfyrdelit ỻann. dy chystud brn̄
brolit. gỽeỻ nac no geu edewit. ym gweithret
gỽastra gỽeilit. chwec ynanwaỽs yn odit. chỽerỽ
dryc cor wedy trenghit. nyt gnaỽt escussaỽt esgỽit.
ny cheffr da heb prit. pedryfan dỽfyn pedry ch=
welit. areith gỽeỻ goleith no govit. drỽc pechaỽt
oe beỻ erlit. da ynggnif porthi menechtit. duỽ
o nef gỽae drut ny gret it. mab meir diweir
avenhit. da weith yn gobeith ỽrthit. ath gyrbỽyỻir
ym bron̄vit.,

[1055]

=========================================

Difrys gỽanec dyffustsit traeth. gosgymonn
gỽth gordin. gỽyluein hanes goyewin pỽyỻ
ỻu. athỽyỻ trỽy chwerthin. bit gynnvidyd
gywrenhin. bit lesc eidyl bit varỽ crin. ke-
rennyd saỻ gaỻ gynnin. gan rewyd ny
pheỻvyd rin. dychyffre, gwaeỽ gỽaetlin. dy-
chy veruyd trỽch athrin. enghit avo ỻyfei-
thin. enwir ef kyỻ ywerin. namỽyn duỽ
nyt oes dewin. arglỽyd gỽlatlỽyd gỽerthevin,
Dyvrys gỽanec dygỽrthryn gro. gỽst eidyl moch
detwyn ry yfant maon medlyn. a ordyvyn paỽb oe
deruyn. trenghyt torrit pob denghyt. ry bryntỽ nef
nyt ef synn, Mor wyt gywrennhin gyrbỽyỻ
oenbaỽt. gỽisgaỽt coet kein gowyỻ. nyt eglur
edrych yntywyỻ. rac annwyt ny weryt cannwyỻ.
nyt edwyd nỽydiuo pỽyỻ. kerēnyd a dovyd ny dỽyỻ,
Nỽy diuo pỽyỻ prif egỽa. agỽnneu edyn ny wna.
oer gaeafraỽt tlaỽt morua. gỽeỻ rihyd no rys-
sedha. rac drỽc ny diỽc atneir. ỻawer maỽreir
a vethla. keudaỽt kyt worymdaa o ovrys nywys
kỽt a. arythal ydrindaỽt traha. maỽrduỽ mor ỽyt
Redeint gorwyd rwyd pob traeth kynnic = wrda,
mynaỽc marchogaeth nyt neb aued oe aruaeth.
nyt ef enir paỽb yndoeth. nyt ehovyn bryt yn
ỻong dreith. nythangnef gỽynnaỽn agodeith.
bit vyỽ gỽr heb dryc wryaeth. mynaỽc kerd ketw-
yf eiỻyaeth. ny byd hyvysgỽr neb noeth. nyt oes
reith nat vo pennaeth breyenhin beidyaỽt an-
reith dywal dir vyd y oleith. ny naỽt eing ỻyfyrder
rac ỻeith. enghit gleỽ oe gyfarweith. medỽ mut
drut pob anghyfyaeith. dinas adiffyd diffeith.
eiryaỽl agaraỽr haỽdweith. ef molir paỽb ỽrth
yweith. nychar dovyd diobeith. goreu kyflwyt
yngyweith, Gwaeannỽyn goaflỽm tir. ot ynt
tonnaỽr gaỽr ennwir. diwestyl alaf dirmygjr.
gwaỻ arny mynych welir. aravo diffyd divennw-
ir ydraa. kyfa rann ry buchir. bit wastat gwreic
ny erchis. mevyl ys gnaỽt oweddaỽt hir. ny
rydecho rydygir. o hir dinaỽ dy chwynir. auo marỽ
ny moch welir. a vo da gan duỽ ys dir. avo gleỽ
gochlywir y glot. o vychot godolir. gỽynn y -
vyt pydiw y rodir. kerennyd duỽ ahoedyl hir,,

[1056]