The Celtic Literature Collective

Trioedd
Red Book of Hergest col.588-598

Tri dynyon a gawssant gampeu adaf.

Tri dyn a gauas kedernit adaf.  Ercwlf gadarn. ac ector gadar. a sompson gadarn. kyngadarnet oedynt ylltri. ac adaf e hun.  Tri dyn a gauaspryt adaf.  absolon ab dayd. a Iason uab eson. a pharis uab priaf. kyndecket oedynt ylltri  ac adaf ehun. Tri dyn a gauas doethineb adaf.  Cado hen a  bed. a sibli doeth. kyndoethet oedynt ell tri ac adaf e hun.  Teir gwraged a gauas pryt eua  yn tri thraean.  diadema gordrch eneas yscwydwyn.  ac elen uannawc y wreic y bu distrywedigaeth tro drwy y phenn.  a pholixena uerch priaf hen vrenhin tro..

Pann aeth llu y lychlyn.

Porth a aeth y gan yrp luydawc hyt yn llchlyn. ar gwr hwnnw a deoth yman ynoes gadyal y byry y erchi dygysuor or ynys honn. ac ny doeth gantaw namyn ef a mathuthauar y was.  ac ys ef a archei o dec prifgaer arhugeint yssyd yn yr ynys honn.  deu kymmeint a elei ganthaw y bob un o nadunt ydyuot ganthaw o honunt ymeith.  ac y bu ardustur gan wyr yr ynys honn htnny.  ac y rodassant idaw. a hwnnw uu lwyraf llu or a aeth or ynys honn.  Ac ef a oresgynnawd argwyr hynny y fford y kerdawd.  ac ys ef lle y trigyawd y gwyr hynny yn y dwy ynys ynymyl mor groec.  Nyt amgen. clas ac auena ar eil aaeth gan elen luydawc. a maxen wledic hyt ynllychlyn.  ac ny doethant byth yr ynys honn.  ar trydyd aaeth gan gasswallawn uab beli. a gwennwynwyn.  a gwanar. veibon lliaw uab nwyfre.  ac aryanrot verch veli eu mam.  ar gwyr hynny o erch aheled pannanhoedynt.  ac a aethant gyt a chasswallawn eu hewythyr ar wysc y kessaryeit or ynys honn.  Sef lle ymae y gwyr hynny yggwasgwyn.  Sef riuedi a aeth gan bob un onadunt.  vn vil ar hugeint.  ar rei hynny uu tri aryanllu ynys prydein.  Trywyr gwarth a uu ynynys prydein.  vn o nadunt.  auarwy uab llud, uab beli. ef adyuynnawd Julius a cesar agwyrruuein yr ynys hon yn gyntaf.  ac a beris talu teir mil o bunnoed aryant bop blwydyn yn deyrnget or ynys hon y wyr ruuein.  o gyryssed achasswallawn y ewythyr.  ar eil yw gwrtheyrn gwrtheneu. a rodes tir gyntaf ysaesson yn yr ynys honn. ac a ymydweidiawd yngyntaf ac wynt. ac a beris llad custennin uychan uab custennin uendiget oe vrat a dehol y deu uroder.  emrys wledic ac uthur penndradon or ynys hon.  hyt y llydaw.  a chymryt y goron ar urenhinyaeth oe dwyll yny eidaw ehun.  ac yny diwed uthur ac emrys a losgassant wrtheyr.  yg kastell gwerthrynyawn alrann gwy unfflam y dial eu braut.  Trydyd gwaethaf uu vedrawt pan edewis arthur lyw*odraeth ynys prydein ganthaw pan aeth ynteu drwy vor yn erbyn lles amherawdyr ruuein a anuonassi gennadeu att arthur hyt ygkaer llion y erchi teyrnget idaw or ynys honn.  ac y wyr ruuein ar y messur y talpwyt y gatwallawn uab beli hyt yn oes gustennin uendigeit. teit arthur.  Sef atteb a rodes arthur y gennadeu yr amherawdyr.  nat oed well ydylyei wyr ruuein deyrnget y wyr ynys prydein.  noc y dylyei weyr ynys prydein udunt wynteu.  Kanys bran uab dyuynawl. a chustennin uab elen. a uuassynt amherodron yn ruuein.  a deu wr or ynys honn oedynt.  Ac yna y lluydawd arthur gordetholwyr y gyuoeth drwy uor yn erbyn yr amherawdyr. ac y kyuaruuant ytu hwnt yuynyd mynneu.  ac aneirif o naudunt o bop parth a las y dyd hwnnw.  Ac yn y diwed y kyuaruu arthur ar amherawdyr.  ac arthur ae lladawd.  ac yno y llas goreugwyr arthur.  a phan gigleu vedrawt gwahanu niuer arthur.  yd ymchoelawd ynteu ynerbyn arthur. ac y duunawd saesson a ffichteit. ac yscottyeit. ac ef y gadw yr ynys honn rac arthur.  a phangigleu arthur hynny yd ymchoelawd dracheuyn. ac a dihengis gantaw oe niuer.  Ac y dreis y ar vedrawt y kauas dyuot y dir yr ynys honn.  Ac yna y bu weith camlan y rwng arthur a medrawt.  ac y lladawd arthur uedrawt.  ac y brathwyt arthur yn angheuawl.  aco hynny y bu uarw.  ac y mywn plas yn ynys auallach y cladwyt.

Dechreu y trioed yw y rei hynn.

Tri gorchuel garcharawr ynys prydein. llyr lledyeith. a geir uab geiryoed. ac un oed oruchelawr nor tri. ef auu deirnos ygkarchar hut a dan lech echymeint. sef oed hwnnw arthur. ac un gwas ae gellyngawd or tri charchar hynny. nyt amgen goreu uab custennin y geuynderw. Tri gwyn deryn ynys prydein. owein uab uryen. a run * uab maelgwn. aruawn pebyr uab dorarth wledic. Tri oeru uard ynys prydein. arthur. araawt eil morgant. a chatwallawn uab katuan. Tri matkud ynys prydein. penn bendigeituran uab llyr a guduwyt yn y gwynuryn yn llundein. ae wyneb ar ffreinc. a hyt tra uu yn yr ansawd y dodet yno. ny doei ormes saesson byth yr ynys honn. Yr eil amatkud. Y dreigeu yn ninas emreis a gudyawd llud uab beli. ar trydyd esgyrn gwertheuyr uendigeit. ym prif pyrth yr ynys honn. a hyt tra vydynt yn yr yny kud hwnnw. ny doei ores o saesson buth yr ynys honn.

a


Back to Red Book of Hergest
Back to Welsh Texts
Back to CLC