The Celtic Literature Collective

Gwahodd Llywarch i Lanfawr
B.M. Addl. 14867, 147b; Panton 14, i, 133, gw. M.S. 96a.

Llywarch.
Meurygawg marchawg maes,
Tra fynnws Dofydd fy lles,
Nid ysswn megis moch mes.

Pendefig.
Llywarch Hen, na fydd diwyl,
Trwydded a geffi, di anwyl.
Tarn dy lygad. Taw! Nag wyl.

Llywarch.
He wyf fi, ni,th oeddiweddaf.
Rhodd am gyssul, cwdd archaf?
Marw Vrien: angen arnaf.

Pendefig.
Ai dy gyssul cyrchu Bran,
Can diwg ag argynan?
Marw meibion urien achlan.

Na chred Fran; na chred Ddunawd.
Na chay ganthudd yn ffossawd.
Bugaill lloe, Llanfawr llwyprawd.

Llywarch.
Yssydd Lanfawr dra gweilgi.
Y gwna mor molud wrthi.
Llallogan, ni wn ai hi.

Ysydd Lanfawr tra Bannawg,
Ydd aa Clwyd yng Nghlywedawg.
Ac ni wn ai hi, laallawg.

Pendefig.
Keis Dyfrdwy yn ei therfyn,
O Weloch hyd traweryn.
Bugail lloe, Llanfawr llwybryn.

Llywarch.
Truan o dynged a dynged i Lowarch
Y nos i ganed
Hir gnif heb esgor lludded.

Teneu fy ysgwyd ar asswy fy nhu,
Cy[d] bwyf hen, as gallaf.
Ar Rodwydd Forlas gwiliaf.

SOURCE
Williams, Ifor. Canu Llywarch Hen. Cardiff: Univeristy of Wales. p. 21-22