The Celtic Literature Collective

Daronwy
Llyfr Taliesin X

Dvw differth nefwy
Rac llanw llet ofrwy.
Kyntaf attarrwy.
Atreis dros vordwy.
Py pren a vo mwy;
No get daronwy.
Nyt wy am nodwy
Am gylch balch nefwy.
Yssit rin yssyd uwy
Gwawr gwyr goronwy.
Odit ae gwypwy.
Hutlath vathonwy.
Ygkoet pan tyfwy.
Ffrwytheu nwy kymrwy.
Ar lan gwyllyonwy.
Kynan ae kaffwy
Pryt pan wledychwy.
Dedeuant etwaeth
Tros trei athros traeth.
Pedeir prif pennaeth.
Ar pymhet nyt gwaeth.
Gwyr gwrd ehelaeth
Ar prydein aruaeth.
Gwraged a ui ffraeth.
Eillon a ui kaeth
Ryferthwy hiraeth
Med a marchogaeth.
Dedeuho dwy rein.
Gwedw a gwryawc vein
Heyrn eu hadein.
Ar wyr yn goryein.
Dydeuho kynrein
O am tir rufein.
Eu kerd a gygein
Eu gwawt ayscein.
Anan derw a drein.
Ar gerd yt gygein.
Ki y tynnu.
March y rynnyaw.
Eidon y wan. hwch y tyruu.
Pymhet llwdyn gwyn a wnaeth Jessu.
O wisc adaf y ymtrau.
Gwyduet coet kein eu syllu.
Hyt yt uuant a hyt yt uu.
Pan wnel kymry kamualha.
Keir aralluro pwy karonu
Llemeis i lam o lam eglwc.
Kewssit da nyr gaho drwc.
Megedorth run yssef a wc.
Rwg kaer rian a chaer rywc
Rwg dineidyn. a dineidwc
Eglur dremynt a wyl golwc.
Rac rynawt tan dychyfrwymwc.
An ren duw an ry amwc.