The Celtic Literature Collective

Glaswawt Taliessin
Llyfr Taliesin XII

Glaswawt Taliessin XXIIII. atal.
Kennadeu am dodynt mor ynt anuonawc.
Dygawn ymlletcynt meint vygkeud awt.
Gnawt rwyf yn heli beli wirawt.
Gnawt yscwyt yscawn argefyn yscawit.
Gnawt gwyth ag adwyth o yspydawt
Gaer. a nawcant maer maer marwhawt.
Atvyd mei ar benei crei gyflogawt.
Atvyd mwy ar gonwy creith gwynyeith gwnahawt.
Adoerlleith dyrreith anaw barawt.
O heyrn erchwyrn edyru dyrnawt.
Tri dillyn diachor droc drymluawc.
Teri llyghes yn aches arymes kyn brawt.
Tri diwedyd kat am dri phriawt
Gwlat. gwnahawt bat betrawt.
Tri o pop tri. tri phechawt.
Ac eryri vre varnhawt.
llu o seis. eil o ynt. trydyd dygnawt.
Ygkymry yd erhy gwraged gweddawt.
Rac baran kynan tan tardawt.
Katwaladyr ae cwyn.
Briwhawt bre a brwyn.
Gwellt a tho tei. ty tandawt.
Atvyd ryfedawt.
Gwr gan verch y vrawt.
Dyfynhyn durawt
Olin anarawt.
O honaw y tyfhawt
Coch kattybrudawt.
Nyt arbet nanawt.
Nachefyn derw na brawt.
Wrth lef corn kadwr
Naw cant ynafyrdwl.
O bedrydant dygnawt.
Dygorelwi lesni o laswawt.
Efret wrth a gawd ygeudawt.