The Celtic Literature Collective

Kadeir Teyrnon.
Llyfr Taliesin XV

Kadeir Teyrnon. CCC.

Areith awdyl eglur.
Awen tra messur.
Am gwr deu awdur.
O echen aladwr.
Ae ffonsa ae ffur.
Ae reom rechtur.
Ae ri rwyfyadur.
Aerif yscrythur.
Ae goch gochlessur
Ae ergyr dros uur.
Ae kedeir gymessur.
Ym plith goscord uur.
Neus duc o gawr nur.
Meirch gwelw gostrodur.
Teyrnon henur.
Heilyn pascadur.
Treded dofyn doehtur.
Y vendigaw arthur.
Arthur vendigan
ar gerd gyfaenat.
Arwyneb ygkat.
Arnaw bystylat.
Pwy y tri chynweissat.
A werchetwis gwlat.
Pwy y tri chyfarwyd
A getwis arwyd.
A daw wrth awyd.
Erbyn eu harglwyd.
Ban rinwed rotwyd.
Ban vyd hyn hoywed.
Ban corn kerdetrwyd.
Ban biw wrth echwrd.
Ban gwir pan disgleir.
Bannach pan lefeir.
Ban pan doeth o peir.
Ogyrwen awen teir.
Bum mynawc mynweir.
Ygkorn ym nedeir.
Ny dyly kadeir.
Ni gatwo vyggeir.
Kadeir gynif glaer.
Awen huawdyl haer.
Pwy enw y teir kaer.
Rwg lliant a llaer.
Nys gwyr ny vo taer
Eissylut eu maer.
Pedeir kaer yssyd.
Ym prydein powyssed
Rieu merweryd.
Am nyt vo nyt vyd.
Nyt vyd am nyt vo
Llyghessawr a vo.
Llyghessawr a vo.
Tohit gwanec tra gro.
Tir dylan dirbo.
Nac eillt nac ado.
Na bryn na thyno.
Na rynnawd godo.
Rac gwynt pan sorho.
Kadeir teyrnon.
Keluyd rwy katwo.
Keissitor ygno.
Keissitor kedic.
Ketwyr colledic.
Tebygafi dull dic.
O diua pendeuic
O dull diuynnic.
O leon luryc.
Dyrchafawt gwledic.
Am terwyn hen enwic.
Breuhawt bragawt bric.
Breuawl eissoric.
Oric a merin
Am teruyn chwhefrin.
Ieithoed edein.
Aches ffyscyolin
Mordwyet merin.
O plant saraphin.
Dogyn dwfyn diwerin.
Dillygein elphin.