The Celtic Literature Collective

Kanu y Cwrwf
Llyfr Taliesin XX

Kany y Cwrwf. XXIIII.

Teithi etmynt
Gwr a gatwynt gwynt.
Pan del yrihyd.
Goruloedawc eluyd.
Menhyt yn tragywyd.
Ys tidi a uedyd.
Dylif a deweint a dyd.
Dyd ymamogawr.
Nos ym orffowyssawr.
Maswed auolhawr.
Y wrth wledic mawr.
Mawr duw digones.
Heul haf ae rywres.
Ac ef digones.
Bud coet amaes.
Galwetawr yraches
Ar eilic aghymes.
Galwettawr pop neges.
Deus dymgwares.
Achyn dybydyn
Llwyth byt yr vnbryn.
Ny ellynt ronyn
Heb gyfoeth mechteyrn.
Ef ae tawd yn llyn
Hyny vo eginyn.
Ef ae tawd weith arall.
Hyny vo yn vall.
Dreuhawc dyderuyd.
Dysgofac yr eluyd.
Golchettawr y lestri.
Bit goryw y vrecci.
A phan vo anawell.
Dydyccawr o gell.
Dydyccawr rac rieu.
Ykein gefedeu.
Nys gwrthryn pop deu.
Y mel ae goreu.
Duw etuynt ynof.
Yd vyd yn y vod
Llaryaf uw trindawt.
Gorwyth medw medwhawt.
O vynut pyscawt
O meint y godrefi.
Grayan mor heli.
Kyn traeth reuerthi.
Grayan mor heli:
Y dan tywawt.
Am kud y ar teithiawc.
Mi hun am gwarawt.
Ny digonir nebawt.
Heb gyfoeth y trindawt.

Teithi etmygant.
Yn tryffin garant
Gallawc gallwgyd. anchwant
Sybwll symaduant.
Ban erdifel tanc.
Neu nos cwt dyuyd.
Kwd dirgel rac dyd.
A wyr kerd geluyd.
Py gel kallonyd.
Am dyro amde.
Or parth dan dwyre.
Py dyduc llyw gayaf.
Py gyt dechreu lle.
Yn dewis echiawc.
Ffus. ffons ffodiawc.
Ef duhun hunawc.
Ef gobryn karawc.
Kymry kaernedawc.
Ytat garadawc.
Dear meneiuon.
Dear mynawc mon.
Mawr erch anudon.
Gwenhwys gwallthiryon.
Am gaer wyragon.
Pwy a tal y keinon.
Ae maelgwn o von.
Ae coel ae kanawon.
Ai gwrwedw ae veibon.
Nyt anchward y alon.
O ynyr wystlon.
Ef kyrch kerdoryon.
Se syberw seon.
Neur dierueis i rin.
Ymordei vfin.
Ymorhred gododin.
Ys ceirurith kyfrenhin.
Bran bore dewin.
Wyf kerdenhin hen.
Wyf kyfreu lawen.
Athraw ydygen.
Meu molawt vryen.
Eiryan eiryoes.
Llyminawc llumoes.
Ruduedel anwys.
Rudyn ae llynvys.
Kat yn hardnenwys.
Ynyr ae briwys.
Kant kalan kynnwys.
Kant car amyuwys.
Gweleis wyr goruawr.
A dygyrchynt awr.
Gweleis waet ar llawr.
Rac ruthyr cledyfawr.
Glessynt escyll gwawr.
Escorynt vy waywar.
Trychant kalan kyman clotuawr.
Ynyr ar tir yn wir cochawr.