The Celtic Literature Collective

Rydyrchafwy duw
Llyfr Taliesin L

Rydyrchafwy duw ar plwyf brython
Arwyd llewenyd lluyd o von.
Kyfryssed gwyned brys gorchordyon.
Ffaw claer o pop aer kaffel gwystlon.
Powys dybydant dwys ygkyfleudon.
Gwyr goruyn gorynt ar eu deduon.
Deulu yd ant bydant gysson.
Yn vn redyf vn eir kyweir kymon.
Kyfranantyn iawn keredigiawn vaon.
Pan welych wyr ryn am lyn aeron.
Pan vo trwm tywi a theiui auon.
Wy gwnant aer ar vrys am lys lonyon.
A geunis adewis yn orllwython.
Ny nothwy dinass oed rac yr wython.
Dynclut. dyn maerut dyn daryfon.
Nyt oed lwyr degyn dyn riedon
Pan dyfu gatwallawn
Dros eigyawn iwerdon.
Yd atrefnwys nefwy yn ardnefon.
Keinyadon moch clywyf eu gofalon.
Marchawc lu mor taer am gaer llion.
A dial idwal ar aranwynyon.
A gware pelre a phen saesson.
Ys trabludyo y gath vreith ae haghyfieithon.
O ryt ar taradyr hyt ym porth wygyr y mon.
Ieuanc didwynas dinas maon.
Or pan amygir mel a meillon.
Gadent eu hamrydar ae hamrysson.
Nyt diwystyl godi dic wrth alon.
rydyrchafwy duw ar plwyf brython.