The Celtic Literature Collective

Bidiau
Pen. 102 f.5

Bid1 gogor gan iar; bid trydar gan lew,
bid ofal ar a'i car;
bid tonn calon rac galar.

Bid aha byddar; bid anwadal ehud;
dirieid bid ymgeingar,
dedwydd yr a'i gwyl a'i car.

Bid gywir baglawg; bid rygyngawd gorwydd;
bid fab llen yn chwannawg;
bid anniwair deueiriawg.

Bid amlwg marchawg; bid ogelawg lleidr;
twyllid gwraig goludawg;
cyfaillt blaidd bugail diawg.

Bid gwyrdd gweilgi; bid gorawen tonn;
bid cwyn pob galarus,
bid aflawen hen heinus.

Bid wlyb rhych; bid fynych mach;
bid chwyrn colwyn, bid wenwyn gwrach;
bid cwynfan claf, bid lawen iach.

Bid chwyrniad colwyn, bid wenwyn neidr;
bid nofiaw rhyd wrth beleidr;
nid gwell yr odwr no'r lleidr.

Bid anhygar diriaid, bid fer pob eweint;
bid heneint i dlodedd;
bid addfwyn yn ancwyn medd.

Bid dwfn llyn; bid llym gwaywawr;
bid gwarant lew glew wrth awr;
bid doeth dedwydd, Duw a'i nawdd.

Bid llawen meichiaid, gwynt a gyfyd;
bid dedwydd ar ei naid,
gnawd aflwydd ar ddiriaid.

Bid gyhuddgar ceisiad; bid gynifiad gwydd;
bid gynnwys gan dillad;
bid garu bardd gan roddiad.

Bid wenn gwylan, bid fann tonn,
bid hyfagl gwyar ar onn,
bid lwyt rew, bid lew calon.

Bid lew unben a bid awy vryd,
a bid lleiniad yn ardwy;
ni cheidw ei wyneb ni roddwy.

Bid llymm eithin, a bid eddain alltut;
chwannawg drut i chwerthin;
bid lwm rhos, bid tost cennin. [Added in copy in Pen. 27.ii, p. 89, maybe by Guttyn Owain:

O chlywy chwedyl bid hydaw dy vryd;
ysgafn gwaith gwarandaw;
ys gwayth ail govyn arnaw.

Na vydd var vynych, na chwenyth gyfrdan;
na ogan yny bych;
kadw dy bwyll, twyll na chwenych.2]

NOTES
1. This poem is closely related to, though distinct from, the poem "Bit goch crib keilyawc" found in Jes. 111 (Llyfr Coch Hergest) and Jes. 3, both possibly copied from one of the lost sections of Llyfr Gwyn Rydderch.

2. This stanza is stanza 10 of "Kyssul Adaon", Llan. 27

SOURCE
Jackson, Kenneth. Early Welsh Gnomic Poems. Cardiff: University of Wales Press, 1935. p. 35-37