The Celtic Literature Collective

Gwên ap Llywarch a'i Fam

Gwên ap Llywarch a'i Fam

Gwên
Na wisc wedy kwyn: na vit vrwyn dy vryt.
Llem awel; chwerw gwenwyn.
[N]a'm cyhud, vy mam; mab yt wyf

Mam
Neut atwen ar vy awen
Yn hanuot o un achen;
Trigwyd oric elwic A Wen!

Gwên
Llym vympar, llachar ygryt
Armaaf y wylyaw ryt.
Kyn nyt anghwyf, Duw gennyt!

Mam
O diegyd ath welif;
O'th ryledir ath gwynif;
Na choll wyneb gwr ar gnif.

Gwên
Ny chollaf wyneb trin wosep wr,
Pan wisc glew y'r ystre.
Porthaf gnif kynn mudif lle.

Mam
Redegawc tonn ar hyt traeth.
Ech adaf torrit aruaeth.
Kat agdo gnawt ffo ar ffraeth.

Gwên
Yssit ym a lauarwyf.
Briwaw pelydyr parth y bwyf.
Ny lauaraf na ffowyf.

Mam
Medal migned; kalet riw.
Rac carn cann tal glann a vriw;
Edewit ny wnelher ny diw,

Gwên
Gwasgarawt neint am glawd caer.
A minneu armaaf
Ysgwyt br[w]yt briw kynn techaf.

Mam
Y corn a'th roes di Vryen,
A'e arwest eur am y en,
Chwyth yndaw, o'th daw aghen.

Gwên
Yrergryt aghen rac aghywyr Lloegyr
Ny lygraf vym mawred;
Ny duhunaf rianed.



Gwên a'i Dad

Llywarch
Tra vum i yn oet y gwas draw
A wisc o eur y ottew;
Bydei re y ruthrwn y waew.

Gwên
Diheu diweir dywäes.
Ti yn vyw a'th dyst ry las!
Ny bu eidyl hen yn was.



Marwnad Gwên

Llywarch
Gwen wrth Lawen yd welas neithwyr,
[Cat g]athuc ny techas,
Oer adrawd, ar glawd gorlas,

Gwen wrth Lawen yd wylwys neithwyr
A'r ysgwyt ar y ysgwyd.
Kan bu mab ymi bu hywyd.

Gwen wrth Lawen yd wyliis neithwyr
A'r ysgwyt ar y guis.
Kan bu mab ymi ny egis,

Gwen gwgyd gochawd vy mryt.
Dy leas ys mawr
Casnar nyt car a'th ladawr,

Gwen vordwyt tylluras. a wylyas neithwyr,
Ygoror Ryt Uorlas.
Kan bu mab ymi ny thechas.

Gwen, gwydwn dy eissillut.
Ruth [yr] eryr yn ebyr oedut.
Betwn dedwyd dianghut.

Tonn tyruit; toit eruit.
Pan aut ky[v]rein ygovit,
Gwen, gwae rhyen o'th etlit.

Tonn tyruit; toit aches.
Pan aut ky[n]fvr[e]in y [ne]gnes
Gwen, gwae ryhen ry'th golles.

Oed gwr vy mab, oed [d]is[y]wen hawl,
Ac oed nei y Vryen,
Ar Ryt Vorlas y llas Gwen.

(Prennyal dywal gal ysgwn
Goruc ar L[l]oegyr llu kyngrwn.
Bed Gwen uab Llywarch Hen hwnn.)

Pedwarmeib ar hugeint a'm bu,
Eurdorchawc tywyssawc llu.
Oed Gwen goreu onadu.

Pedwarmeib ar hugeint a'm bwyat,
Eurdorchawc tywyssawc cat.
Oed Gwen goreu mab o'e dat.

Pedwarmeib ar hugeint a'm bwyn.
Eurdorchawc tywyssawc vnbynn.
Wrth Wen gweissyonein oedyn,

Pedwarmeib ar hugeint yg kenueint Lywarch.
O wyr glew galwytheint.
Twll eudyot clot trameint,

Pedwarmeib ar hugeint a ueithyeint vygknawt
Drwy vyn tauawt lledesseint.
Da dyuot vygcot colledeint.



Pyll

Llywarch.
Pan las [vy mab] Pyll, oed teuyll briw.
A gwaet ar wallt hyll;
ac am dwylann Ffraw ffroyll,

Dichonat ysteuyll o esgyll ysgwydawr
Tra vydat yn seuyll,
A vriwat ar aghat Byll.

[V]yn dewis ar vy meibon,
Pan gyrchei bawp y alon.
Pyll Wynn, pwyll tan trwy lumon.

Mat dodes mordwyt dros obell gorwyd
O wng ac o bell.
Pyll [Wynn], pyll tan trwy sawell.

Oed llary llaw aergre; oed aele eilwyd.
Oed dinas ar ystre.
Pyll Vyn, oet peithyll eu[r]de.

Pan sauei yn drws pebyll
Y ar orwyd erewyll.
Ardelwei o wr wreic Pyll.

Briwyt rac Pyll penngloc ffer.
Ys odit llywyr yt lecher yndaw.
Eidil heb dim digoner.

Pyll Wynn, pellennic y glot.
Handwyf nwyf yrot o'th dyuot; yn vab,
A'th arab atnabot.

Goreu tridyn y dan nef;
A werchetwis eu hadef,
Pyll, a Selyf, a Sandef.

Ysgwyt a rodeis y Byll.
Kyn no'e gyscu neu bu doll.
Dimiaw y hadaw ar wall.

Kyt delei Gymry ac elyflu Lloeger.
A llawer o bell tu,
Dangossei Byll bwyll udu.

Beddau

Na Phwyll na Madawc ny bydynt hirhoedlawc
O'r dewawt a getwynt;
Rodyn na rodyn, kygreir vyth nys erchynt.

Llyma yma bed diuei
Tringar y veird ysei
Y glot lle nyt elei
Byll, pei pellach, parei.

Maen, a Madawc, a Medel,
Dewrwyr, diyssic vroder,
Selyf, Heilin, Llawr, Lliwer.

Bed Gwell yny Riw Velen.
Bed Sawyl yn Llan Gollen.
Gwercheidw llam yr bwch Lloryen .

Bed rud neus cud tywarch.
Nis eiryt gweryt ammarch.
Bed Llygedwy uab Llywarch.



Talan

Pell odyman Aber Lliw.
Pellach andwy gyfedliw.
Talan, teleisty deigyr hediw

Dwc

Eryueis i win o gawc.
Ef a racwan rac Reinyawc;
Esgyll gwawr oed waewawr Dwc.

Ediuar gennyf pan ym erchis Duc
Nat gantu [r]y drewis,
Kyn ny dyuei hael hoedel mis.

Kyny

Atwen leueryd Kyni.
Pan disgynnei yg kyfyrdy
Penn gw[y]r pan gwin a dyly.