The Celtic Literature Collective

Armes Prydein Vawr
Llyfr Taliesin VI

Dygogan awen dygobryssyn.
maraned a meued a hed genhyn.
A phennaeth ehelaeth a ffraeth vnbyn.
A gwedy dyhed anhed ym pop mehyn.
Gwyr gwychyr yn trydar kasnar degyn.
escut yg gofut ryhyt diffyn.
Gwaethyl gwyr hyt Gaer Weir gwasgarawt allmyn.
gwnahawnt goruoled gwedy gwehyn.
A chymot Kymry a gwyr Dulyn.
Gwydyl Iwerdon Mon a Phrydyn.
Cornyw a Chludwys eu kynnwys genhyn.
Atporyon uyd Brython pan dyorfyn.
Pell dygoganher amser dybydyn.
Teyrned a bonhed eu gorescyn.
Gwyr Gogled yg kynted yn eu kylchyn.
ymperued eu racwed y discynnyn.

Dysgogan Myrdin kyueruyd hyn.
yn Aber Perydon meiryon mechteyrn.
A chyny bei vn reith lleith a gwynyn.
o vn ewyllis bryt yd ymwrthuynnyn.
Meiryon eu tretheu dychynnullyn.
yg ketoed Kymru nat oed a telhyn.
yssyd wr dylyedawc a lefeir hyn.
(ny dyffei a talei yg keithiwet).

Mab Meir mawr a eir pryt na tharde[r].
rac pennaeth Saesson ac eu hoffed.
Pell bwynt kychmyn y Wrtheyrn Gwyned.
ef gyrhawt allmyn y alltuded.
nys arhaedwy neb nys dioes dayar.
ny wydynt py treiglynt ym pop aber.
pan prynassant Danet trwy fflet called.
gan Hors a Hegys oed yng eu ryssed.
eu kynnyd bu y wrthyn yn anuonhed.
gwedy rin dilein keith y myneur.
dechymyd meddaw[t] mawr wirawt o ved.
dechymyd agen agheu llawer.
dec[h]ymyd anaeleu dagreu gwraged.
dychyfroy etgyllaeth pennaeth lletfer.
dechymyd tristit byt a ryher.
Pan uyd kechmyn Danet an teyrned.
Gwrthottit trindawt dyrnawt a bwyller.
y dilein gwlat Vrython a Saesson yn anhed.
poet kynt eu reges yn alltuded.
no mynet Kymry yn diffroed.

Mab Meir mawr a eir pryt nas terdyn.
Kymry rac goeir breyr ac vnbyn.
kyneircheit kyneilweit vn reith cwynnyn.
vn gor vn gyghor vn eissor ynt.
nyt oed yr mawred nas lleferynt.
namyn yr hebcor goeir nas kymodynt.
y Dduw a Dewi yd ymorchymynynt.
talet gwrthodet flet y allmyn.
gwnaent wy aneireu eisseu trefdyn.
Kymry a Saesson kyferuydyn.
y am lanymtreulaw ac ymwrthyn.
o diruawr vydinawr pan ymprofyn.
Ac am allt lafnawr a gawr a gryn.
Ac am Gwy geir kyfyrgeir y am peurllyn.
A lluman adaw agarw disgyn.
A mal [bwyt] balaon Saesson syrthyn.
Kymry kynyrcheit kyfun dullyn.
blaen wrth von granwynyon kyfyng oedyn.
meiryon yg werth eu geu yn eu creinhyn.
Eu bydin ygwaetlin yn eu kylchyn.
Ereill ar eu traet trwy goet kilhyn.
Trwy uwrch y dinas ffoxas ffohyn.
ryfel heb dychwel y tir Prydyn.
Attor trwy law gyghor mal mor llithryn.

Meiryon Kaer Geri difri cwynant.
rei y dyffryn a bryn nys dirwadant.
y Aber Perydon ny mat doethant.
anaelau tretheu dychynullant.
naw vgein canhwr y discynnant.
mawr watwar namyn petwar nyt atcorant.
dyhed y eu gwraged a dywedant.
eu crysseu yn llawn creu a orolchant.
Kymry kyneircheit eneit dichwant.
gwyr deheu eu tretheu a amygant.
llym llifeit llafnawr llwyr y lladant.
ny byd y vedyc mwyn or a wnaant.
bydinoed Katwaladyr kadyr y deuant.
rydrychafwynt Kymry kat a wnant.
lleith anoleith rydygyrchassant.
yg gorffen eu tretheu agheu a wdant.
ereill arosceill ryplanhassant.
oes oesseu eu tretheu nys escorant.

Yg koet ymas [ym bro] ym bryn.
canhwyll yn tywyll a gerd genhyn.
Kynan yn racwan ym pop discyn.
Saesson rac Brython gwae a genyn.
Katwalaldyr yn baladyr gan y unbyn.
trwy synhwyr yn llwyr yn eu dichlyn.
Pan syrthwynt eu clas dros eu herchwyn.
yg custud a chreu rud ar rud allmyn.
Yg gorffen pop agreith anreith degyn.
Seis ar hynt hyt Gaer Wynt kynt pwy kynt techyn.
gwyn eu byt wy Gymry pan adrodynt.
ryn gwarawt y trindawt or trallawt gynt.
na chrynet Dyfet na Glywyssg.
nys gwnaho molawt meiryon mechteyrn.
na chynhoryon Saesson keffyn ebryn.
nys gwnaho medut meddawt genhyn.
heb talet o dynget meint a geffyn.
O ymdifeit veibon ac ereill ryn.
trwy eiryawl Dewi a seint Prydeyn.
hyt ffrwt Ailego ffohawr all[myn].

Dysgogan awen dydaw y dyd.
pan dyffo Iwys y vn gwssyl.
Vn cor vn gyghor a Lloegyr lloscit.
yr gobeith anneiraw ar yn prydaw luyd.
A cherd ar alluro a ffo beunyd.
ny wyr kud ymda cwd a cwd vyd.
Dychyrchwynt gyfarth mal arth o vynyd.
y talu gwynyeith gwaet eu hennyd.
Atvi peleitral dyfal dillyd.
nyt arbettwy car corff y gilyd.
Atui pen gaflaw heb emennyd.
Atui gwraged gwedw a meirch gweilyd.
Atui obein vthyr rac ruthyr ketwyr.
A lliaws llaw amhar kyn gwascar lluyd.
Kennadeu agheu dycyferwyd.
pan safhwynt galaned wrth eu hennyd.
Ef dialawr y treth ar gwerth beunyd.
ar mynch gennadeu ar geu luyd.
Dygorfu Kymry trwy kyfergyr.
yn gyweir gyteir gytson gytffyd

Dygorfu Kymry y peri kat.
a llwyth lliaws gwlat a gynnullant.
A lluman glan Dewi a drychafant.
y tywyssau Gwydyl trwy lieingant.
A gynhon Dulyn genhyn y safant.
pan dyffont yr gat nyt ymwadant.
gofynnant yr Saesson py geissyssant.
pwy meint eu dylyet or wlat a dalyant.
cw mae eu herw pan seilyassant.
cw mae eu kenedloed py vro pan doethant.
yr amser Gwrtheyrn genhyn y sathrant.
ny cheffir o wir rantir an karant.
Neu vreint an seint pyr y saghyssant.
neu reitheu Dewi pyr y torrasant.
ymgetwynt Gymry pan ymwelant.
nyt ahont allmyn or nen y safant.
hyt pan tahont seithweith gwerth digonsant.
Ac agheu diheu yg werth eu cam.
ef talhawr o anawr Garmawn garant.
y pedeir blyned ar petwar cant.

Gwyr gwychyr gwallt hiryon ergyr dofyd.
o dihol Saesson o Iwerdon dybyd.
Dybi o Lego lyghes rewyd.
rewinyawt y gat rwyccawt lluyd.
Dybi oAlchut gwyr drut diweir.
y dihol o Prydein virein luyd.
Dybi o Lydaw prydaw gyweithyd.
ketwyr y ar katueirch ny pheirch eu hennyd.
Saesson o pop partgh y gwarth ae deubyd.
ry treghis eu hoes nys dioes eluyd.
dyderpi agheu yr du gyweithyd.
clefyt a dyllid ac angweryt.
Gwedy eur ac aryant a chanhwynyd.
boet perth eu disserth ygwerth eu drycffyd.
boet mor boet agor eu kussulwyr.
boet creu boet agheu eu kyweithyd.
Kynan a Chatwaladyr kadyr yn lluyd.
Etmyccawr hyt vrawt ffawt ae deubyd.
deu vnben degyn dwys eu kussyl.
deu orsegyn Saessono pleit Dofyd.
deu hael deu gedawl gwlat warthegyd.
deu diarchar barawt vnffawt vn ffyd.
deu erchwynawc Prydein mirein luyd.
deu arth nys gwna gwarth kyfarth beunyd.

Dysgogan derwydon meint a deruyd.
Vynaw hyt Lydaw yn eu llaw yt vyd.
Dyuet hyt Danet wy bieiuyd.
Wawl hyt Weryt hyt eu hebyr.
Llettawt eu pennaeth tros yr echwyd.
Attor ar gynhon Saesson ny byd.
Atchwelwynt Wydyl ar eu hennyd.
rydrychafwynt Gymry kadyr gyweithyd.
bydinoed am gwrwf a thwrwf milwyr.
A theyrned Dews rygedwys eu ffyd.
Iwis y pop llyghes tres a deruyd.
A chymot Kynan gan y gilyd.
ny alwawr gynhon yn gynifwyr.
namyn kechmyn Katwaladyr ae gyfnewitwyr.
Eil Kymro llawen llafar a uyd.
Am ynys gynwyeit heit a deruyd.
pan safhwynt galaned wrth eu hennyd.
hyt yn Aber Santwic swynedic vyd.
Allmyn ar gychwyn y alltudyd.
ol wrth ol attor ar eu hennyd.
Saesson wrth agor ar vor peunyd.
Kymry gwenerawl hyt vrawt goruyd.
Na cheisswynt lyfrawr nac agawr brydyd.
Arymes yr ynys hon namyn hyn ny byd.
Iolwn i ri a grewys nef ac eluyd.
poet tywyssawc Dewi yr kynifwyr.
yn yr yg Gelli Kaer am Duw yssyd.
ny threinc ny dieinc nyt ardispyd.
ny wyw ny wellyc ny phlyc ny chryd.