The Celtic Literature Collective

Mab Gyfreu Taliessin
Llyfr Taliesin IX

Kyfarchaf ym ren
Y ystyrgaw awen.
Py dyduc aghen
Kyn no cherituen.
Kyssefin ym byt
A uu eissywyt.
Meneich aleit
Pyrnam dyweit.
Pyr nam eisgyt
Vn awr nam herlynyt.
Py datwyreith mwc
Pyt echenis drwc.
Py ffynhawn a diwc
Uch argel tywyllwc.
Pan yw kalaf cann.
Pan yw nos lloergan.
arall ny chanhwyt
Dyyscwyt allan.
Pan yw gofaran
Twrwf tonneu wrth lan.
Yn dial dylan.
Dydahaed attan.
Pan yw mor trwm maen.
Pan yw mor llym drawen.
Awdosti pwy gwell
Ae von al y vlaen.
Py peris parwyt
Rwg dyn ac annwyt.
Pwy gwell y adwyt
Ae ieuanc ae llwyt.
A wdostti perth wyt
Pan wych yn kyscwyt.
Ae corff ae eneit.
Ae argel canhwyt.
Eilewyd keluyd
Pyr nam dywedyd.
A wdosti cwd uyd
Nos yn arhos dyd.
Pet deilen yssyd.
Py drychefis mynyd
Kyn rewinyaw eluyd.
Py gynheil magwr
Dayar yn breswyl.
Eneit pwy gwynawr
Pwy gwelas ef pwy gwyr.
Ryfedaf yn llyfreu
Nas gwdant yn diheu.
Eneit pwy y hadneu
Pwy pryt y haelodeu.
Py parth pan dineu
ry wynt a ryffreu
Ryfel anygnawt.
Pechadur periglawt.
Ryfedaf ar wawt
Pan uu y gwadawt.
Py goreu medd dawt
O ved a bragawt.
Py goryw y ffawt
Amwyn duw trindawt.
Pyr y traethwn i traythawt.
Namyn o honaawt.
Py peris keinhawc
O aryant rodavt.
Pan yw mor redegawc.
Karr mor eithiawc.
Agheu seilyawc
Ympop gwlat ys rannawc.
Agheu uch an pen
Ys lledan y lenn.
Vch nef noe nen.
Hynaf uyd dyn pan anher
Aieu ieu pop amser.
Yssit a pryderer
Or bressent haed.
Gwedy anreufed
Pyr yn gwna ni bryhoedled.
Digawn llawryded
Kywestwch a bed.
Ar gwr an gwnaeth
Or wlat gwerthefin.
Boet ef an duw an duwch
Attaw or diwed.