The Celtic Literature Collective

Kerd Veib am Llyr
Llyfr Taliesin XIV

Golychafi gulwyd arglwyd pop echen.
Arbenhic toruoed yghyoed am orden.
Keint yn yspydawt uch gwirawt aglawen.
Keint rac meibon llyr in ebyr henuelen.
Gueleis treis trydar ac auar ac aghen.
Yt lethrynt lafnawr ar pennawr disgowen
Keint rac wd clotleu. Yn doleu hafren.
Rac brochuael powys a garwys vy awen.
Yn ewyd am antraet gwaet ar dien.
Neut amuc yggkadeir opeir kerritwen.
Handit ryd vyn tafawt yn adawt gwawt ogyrwen.
Gwawt ogyrwen oferen twy digones
Arnunt a llefrith a gwlith a mes.
Ystryeim yn llwyr kyn clwyr cyffes.
Dyfot yn diheu agheu nessnes.
Ac am tired enlli dybi dylles.
Drychawr llogawr ar glawr aches.
A galwn arygwr an digones.
An nothwy rac gwyth llwyth aghes.
Pan alwer yeys von tiryon vaes.
Gwyn en byt wy gwleidon saesson artres.
Dodwyf deganhwy y amrysson.
A maelgwn uwyhaf y achwysson.
Ellygeis vy arglwyd yggwyd deon.
Elphin pendefic ryhodigyon.
Yssit imi teir kadeir dyweir kysson.
Ac yt vrawt parahawt gan gerdoryon.
Bum ygkat godeu gan lleu agwydyon.
Vy arithwys gwyd eluyd ac elestron.
Bum y gan vran yn Iwerdon.
Gweleis pan ladwyt mordwyt tyllon.
Kigleu gyfarfot am gerdolyon.
A gwydyl deifyl diferogyon.
O penren wleth hyt luch reon.
Kymry yn wnvryt gwrhyt wryon.
Gwret dy gymry ygkymelri.
Teir kenedyl gwythlawn o iawn teithi.
Gwydyl abrython aromani.
A wnahon dyhed adyuysci.
Ac am teruyn prydein kein y threfi.
Keint rac teyrned uch med lestri.
Ygkeinyon deon im aedyrodi.
An dwy pen sywet ket ryferthi.
Ys kyweir vyg kadeir ygkaer sidi.
Nys plawd neb heint a heneint a uo yndi.
Ys gwyr manawyt aphryderi.
Teir oryan y am tan a gan recdi.
Ac am y banneu ffrydyeu gweilgi.
Ar ffynnhawn ffrwythlawn yssydd o duchti.
Ys whegach nor gwin gwyn y llyn yndi
Agwedy ath iolaf oruchaf kyn gweryt
Gorot kymot. athi.