The Celtic Literature Collective

Kanu y Med
Llyfr Taliesin XIX

Kanu y Med. XXIIII.

Golychaf wledic pendiuic pop wa.
Gwr agynheil ynef arglwyd pop tra.
Gwr a wnaeth y dwfyr y bawb yn da.
Medhet maelgwn mon ac an medwa.
Ae vedgorn ewyn gwerlyn gwymha.
As kynnull gwenyn ac nys mwynha.
Med hidleit moleit molut y pop tra.
Lleaws creadur a vac terra.
A wnaeth duw y dyn yr y donha.
Rei drut rei mut ef ae mwynha.
rei gwyllt rei dof douyd ae gwna.
Yn dillig vdunt yn dillat yda.
Yn uwyt yn diawt hyt vrawt yt parha
Golychafi wledic pendefic gwlat hed.
Y dillwg elphin o alltuted.
Y gwr am rodes y gwin ar cwrwf ar med.
Ar meirch mawr modur mirein eu gwed.
Am rothwy etwa mal diwed.
Trwy vod duw y ryd twy enryded.
Pump pemhwnt kalan gykyman hed.
Elffinawc varchawc medhwyrdy ogled.