The Celtic Literature Collective

Torrit anuyndawl
Llyfr Taliesin XXV

Torrit anuyndawl
Tuth iawl dan yscawl.
Ef iolen o duch llawr
Tan tanhwytin gwawr
Uch awel uchel
Uch no phop nyfel
Mawr y anyfel.
Ny thric y gofel
No meithawr llyr.
Llyr llwybyr y tebyr
Dy var ygkynebyr
Gwawr gwen gwrthuchyr.
Wrth war wrth wrys
Wrth pop heuelis.
Wrth heuelis nwython
Wrth pedyr afaon.
Ardwyreafi a varn gwrys
Kadarn trydar dwfyn y gas.
Nyt mi gwr llwfyr llwyt
Crwybyr wrth clwyt.
Hut vyn deu garant.
Deu dich uwar dichwant
Om llaw yth law dyt dwy dim.
Trithri nodet
Atcor ar henet.
A march mayawc.
A march genethawc.
A march karadawc.
Kymrwy teithiawc.
A march gwythur.
A march gwardur.
A march arthur.
Ehofyn rodi cur.
A march taliessin.
A march lleu letuegin.
A phebyr llei llwynin.
A grei march cunin.
Kornan kyneiwawc
A wyd awydawc.
Du moreod enwawc.
March brwyn bro bradawc.
Ar tri carn aflawc.
Nyt ant gynt hilaw.
Kethin march keidaw.
Carn avarn arnaw.
Yscwydurith yscodic.
Gorwyd llemenic.
March ryderc rydic.
Llwyt lliw elleic.
A llamrei llawn elwic.
Affroenuoll gwyrenhic.
March sadyrnin.
A march custenhin.
Ac ereil yn trin
Rac tir all gwin.
Henwyn mat dyduc.
Kychwedyl o hiraduc.
Bum hwch bum bwch
Bum syw bum swch.
Bum bann bum banhwch.
Bum gawr ym rythwch.
Bum llif yn eirth 
Bum ton yn egheirth.
Bum yscafyn ysceinat dilyw.
Bum kath pennrith ar tri phreu.
Bum pell. bum pen.
Gafyr ar yscaw pren.
Bum garan gwala gwelet golwc.
Tragwres milet moryal.
Katwent kenedyl da.
Or yssyd is awyr gwedy kassolwn.
Nyt byw ormod meint am gwyr.