Ar clawr eluyd
Llyfr Taliesin XXVII

Ar clawr eluyd y gystedlyd ny ryanet.
Teir person duw. vn mab adwyn terwyn trinet.
Mab yr dwydit. mab yr dyndit. vn mab ryued.
Mab duw dinas. mab gwen meirgwas. mat gwas gwelet.
O hil ade ac abrahae yn ryanet.
O hil dofyd dogyn dwfynwedyd llu ryanet.
Dyduc o eir deill abydeir o pop aelet.
Pobyl ginhiawc. goec gamwedawc salw amnyned.
Rydrychafom erbyn trindawt gwedy gwaret.
Croes cristyn glaer. lluryc llachar rac pop aelat.
Rac pop anuaws poet yn dilis dinas diffret.