The Celtic Literature Collective

Marwnat Aeddon
Llyfr Taliesin XLV

Echrys ynys gwawt hu ynys gwrys gobetror.
Mon mat goge gwrhyt eruei. menei y dor.
Lleweis wirawt gwin a bragawt gan vrawt escor.
Teyrn wofrwy diwed pop rwyf rewinetor.
Tristlawn deon yr archaedon kan rychior.
Nyt uu nyt vi ygkymelri y gyfeissor.
Pan doeth aedon. o wlat wytyon seon tewdor.
Gwenwyn pyr doeth pedeir pennoeth meinoeth tymhor.
kwyndynt kyfoet ny bu clyt coet gwynt ygohor.
Math ac euuyd. Hutwyt geluyd ryd eluinor.
Y myw gwytyon ac amaethon. at oed kyghor.
Twll tal y rodawc ffyryf ffodiawc. ffyryf diachor.
Katarn gygres y varanres ny bu werthuor.
Katarn gyfed ym pop gorsed gwnelit y vod.
Cu kynaethwy hyt tra uwyf uyw kyr bwylletor.
Am bwyfi gan grist. hyt na bwyf trist ran ebostol.
Hael archaedon gan egylyon. cwynwyssetor.

Echrys ynys gwawt hynys gwrys gochyma.
Y rac budwas. kymry dinas. aros ara.
Draganawl ben priodawr perchen ymretonia.
Difa gwledic or bendefic ae tu terra.
Pedeir morwyn wedy eu cwyn dygnawt eu tra.
Erdygnawt wir ar vor heb ar tir hir eu trefra.
Oe wironyn na digonyn dim gofettra.
Kerydus wyf na chyrbwyllwyf am rywnel da.
Y lwrw lywy pwy gwahardwy pwy attrefna.
Y wrw aedon pwy gynheil mon mwyn gowala.
Am bwyfi gan grist hyt na bwyf trist o drwc o da.
Ran trugared y wlat ried buched gyfa.