The Celtic Literature Collective

Trindawt tragywyd
Llyfr Taliesin LI

Trindawt tragywyd
A oreu eluyd.
A gwedy eluyd
Adaf yn geluyd.
A gwedy adaf.
Day goreu eua.
Yr israel bendigeit
A oreu murgreit.
Gwrd y gyrbwylleit.
Glan y gywydeit.
Deudec tref yr israel. dwyrein gywychafael.
Deudec meib yr israel. a oreu duw hael.
Deudec meib yr israel buant gytuaeth.
Deudec du dinam. teir mam ae maeth.
Vn gwr ae crewys creawdyr ae gwnaeth.
Mal y gwna a vynho a uo pennaeth.
Deudeg meib yr israel a wnaeth culwyd.
mal y gwna a vynho a uo arglwyd.
Deudec meib yr israel a wnaeth dofyd.
Maly y gwna a vynho a vo keluyd.
Deudec meib yr israel dymgofu
O ganhat iessu.
Ac vn tat ae bu
Atheir mam udu.
O nadu y doeth rat
Ac eissydyd mat.
A meir mat great.
A christ vy nerthat.
Arglwyd pop gwenwlat.
A alwaf a eilw pop ryd.
Hu bo vyg hynnyd.
Genhyt gerenhyd.