The Celtic Literature Collective

Kanu y Byt Bychan
Llyfr Taliesin LVI

Kein geneis kanaf.
Byt vndyd mwyhaf.
Lliaws a bwyllaf
Ac a bryderaf.
Kyfarchaf y veird byt.
Pryt nam dyweid
Py gynheil y byt.
Na syrch yn eissywyt.
Neur byt bei syrchei.
Py ar yt gwydei.
Pwy ae gogynhalei.
Byt mor yw aduant.
Pan syrch yn diuant
Etwa yn geugant.
Byt mor yw ryfed.
Na syrch yn vnwed.
byt mor yw odit
Mor vawr yt sethrit
Johannes. Matheus.
Lucas. a Marcus.
Wy a gynheil y byt
Trwy rat yr yspryt.